Cyhoeddi Rhifyn 31 Gwerddon
Ar 30 Hydref, cyhoeddwyd y rhifyn diweddaraf o Gwerddon. Mae Rhifyn 31 yn cynnwys erthyglau o feysydd amrywiol yn y dyniaethau a’r celfyddydau. Awduron y rhifyn hwn, sy’n cynnwys pum erthygl, yw Dr Huw L. Williams o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd, Wyn Mason o Gyfadran y Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru, Dr Laura Beth Davies o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Dr Catrin Wyn Edwards o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, a Dr Robert Bowen o’r Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe, a Dr Wyn Morris o’r Ysgol Fusnes, Prifysgol Aberystwyth.
Rhifynnau