Craig Owen Jones


Mae Dr Craig Owen Jones yn frodor o Lanelwy. Graddiodd o’r Ysgol Gerdd, Prifysgol Bangor gyda doethuriaeth yn 2006. Mae’n arbenigo mewn cerddoriaeth boblogaidd, yn enwedig cerddoriaeth bop iaith Gymraeg, y Manic Street Preachers, cerddoriaeth boblogaidd mewn ieithoedd lleiafrifol, a roc pync. Mae’n gweithio fel darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Ysgol Gerdd, Prifysgol Bangor.

Craig Owen Jones, '"Ar y brig unwaith eto": siartiau pop iaith Gymraeg cynnar', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 29-45.

Craig Owen Jones, 'Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a’r 1970au', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 10-27.

Craig Owen Jones, ‘Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg’, Gwerddon, 22, Hydref 2016, 11-30.