Newyddion

Cyhoedd rhifyn arbennig ar y Blynyddoedd Cynnar

Y Blynyddoedd Cynnar yw testun rhifyn arbennig diweddaraf Gwerddon.

Dyma’r cyfnodolyn ymchwil cyntaf erioed i ganolbwyntio ar y Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg ac mae’r cynnwys yn enghraifft glir o botensial ymchwil cyfrwng Cymraeg i gyfrannu at drafodaethau polisi cyhoeddus.

Mae rhifyn 26 yn cynnwys tair erthygl gan arbenigwyr yn y Blynyddoedd Cynnar: Sian Wyn SiencynMirain Rhys, a Prysor Davies ac Emily Parry. Mae erthygl Dr Siân Wyn Siencyn yn gwreiddio datblygiad gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg mewn cyd-destun sosio-hanesyddol, tra bo Dr Mirain Rhys yn ystyried y berthynas rhwng addysgeg y Cyfnod Sylfaen a datblygiad y Gymraeg fel maes dysg o fewn y sector cyfrwng Cymraeg a’r sector cyfrwng Saesneg. Yn olaf, mae ymchwil Dr Prysor Mason Davies ac Emily Parry yn edrych ar brofiadau addysgwyr a gofalwyr – sydd wedi dysgu Cymraeg eu hunain neu sydd yn y broses o ddysgu’r iaith – wrth iddynt gyflwyno’r Gymraeg i blant.

Dywedodd Dr Anwen Jones, Golygydd Gwerddon:

“Rydym yn eithriadol o falch i weld y rhifyn hwn yn dod i glawr mewn maes mor berthnasol a phwysig mewn cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol ac athronyddol yn y Gymraeg a’r Gymru gyfoes. Braf hefyd gallu cyhoeddi cyfraniad gan glwstwr o academyddion amrywiol ac ymroddedig o sefydliadau ar draws Cymru.”

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, yw golygydd gwadd rhifyn 26 o Gwerddon. Meddai:

“Mae mudiad sy'n holi, stilio a thrafod yn arwydd o fudiad sy'n esblygu ac arloesi. Mor bwysig felly yw cael ymchwilwyr yn edrych mewn dyfnder ar agweddau o faes y Blynyddoedd Cynnar fel bod gwaith ymchwil yn dylanwadu ar greu polisi ac ar weithredu. Mae'r rhifyn arbennig hwn o Gwerddon yn ddatblygiad arbennig ac unigryw sy'n dechrau llenwi'r bwlch mewn diffyg dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o waith y sector.”

Cyhoeddir y rhifyn arbennig ar drothwy newidiadau pellgyrhaeddol i gwricwlwm 3-16 yng Nghymru. Modelwyd y newidiadau ar ethos y Cyfnod Sylfaen, sy'n gefnlen i'r Blynyddoedd Cynnar.

Gyda strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, yn tanlinellu pwysigrwydd y Blynyddoedd Cynnar, mae’r rhifyn yn anelu at ddechrau trafodaeth rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisi a’r cyhoedd, ar rai o'r heriau sydd ar y gorwel, yn enwedig o safbwynt y Cyfnod Sylfaen.


Lisa Sheppard yn ennill Gwobr Gwerddon

Lisa_SheppardDr Lisa Sheppard o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw enillydd Gwobr Gwerddon eleni, gwobr a noddir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dyfernir Gwobr Gwerddon bob dwy flynedd i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Eleni, erthygl Lisa – ‘‘Troi Dalen ‘Arall’: Ail-ddehongli’r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr ‘arall’ – a ddaeth i’r brig.

Dywedodd Lisa, sydd yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg:

“Roedd yn fraint clywed bod Gwobr Gwerddon wedi’i dyfarnu i mi, a hynny’n hollol annisgwyl. Hoffwn ddiolch yn fawr i dîm golygyddol Gwerddon am eu cefnogaeth, ac i Dr Huw Williams, Prifysgol Caerdydd, am fy ngwahodd i gyfrannu at y rhifyn arbennig a phwysig ar ‘Berthnasau Athronyddol’. Mae’r erthygl yn trafod sut y mae nofelau Cymreig cyfoes (Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd  a The Book of Idiots gan Christopher Meredith), yn portreadu siaradwyr Cymraeg a Saesneg ill dau yng Nghymru fel ‘yr arall’, fel pobl ddieithr neu wahanol.

“Yn yr oes sydd ohoni, gyda phrosesau fel ‘Brexit’ yn eu hanterth, mae’n bwysig inni ddeall sut y mae’r delweddau a welwn o’n cwmpas yn darlunio rhai grwpiau cymdeithasol fel ‘yr arall’ hefyd, fel rhywrai sydd y tu allan i’r norm cenedlaethol, a sut mae presenoldeb iaith leiafrifol gynhenid fel y Gymraeg yn effeithio ar y prosesau hyn.

“Rhaid diolch i Gwerddon felly am y cyfle i drafod materion o bwys fel hyn trwy gyfrwng y Gymraeg, a meddwl am sut y gall ein profiadau dwyieithog yn y Gymru gyfoes ein helpu i ail-ddiffinio’n perthynas gyda grwpiau lleiafrifol neu ymylol eraill yng Nghymru a Phrydain”

Dywedodd golygydd Gwerddon, Dr Anwen Jones:

“Rydyn ni’n llongyfarch Lisa yn wresog ar ennill y wobr eleni. Gwobrwywyd yr erthygl hon, o blith nifer o erthyglau arbennig o dda ar sail grym y ddadl, ac ansawdd y dystiolaeth ysgolheigaidd a gyflwynwyd. Mae hi hefyd o ddiddordeb i bobl y tu allan i faes penodol llenyddiaeth ac athroniaeth. Trwy gyfuno’r nodweddion yma mae’r erthygl yn enghraifft loyw o fwriad Gwerddon.”

Ychwanegodd Anwen “Diolch i Lisa ac i’r holl awduron eraill sydd wedi cyhoeddi yn Gwerddon dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac sydd yn parhau i gyflwyno eu gwaith. Rydym yn awyddus iawn i dderbyn gwaith ysgolheigaidd gwreiddiol a diddorol o bob maes ymchwil.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am noddi’r wobr yma eto eleni.”

Bydd Lisa yn derbyn tlws ynghyd â £100 yn rhoddedig gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn nathliad pen-blwydd Gwerddon ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Môn am 3:30 brynhawn dydd Mawrth 8 Awst.