Ffrwd

Llun Mawr

Beth bynnag yw dy bwnc ymchwil, mae gan #ffrwd ddiddordeb!

Amcan #ffrwd yw bod yn ofod bywiog ar gyfer y byd ymchwil Cymraeg! Felly beth bynnag yw dy bwnc ymchwil, os oes gen ti

  • newyddion am ffrwyth dy waith ymchwil neu ganlyniad arloesol 
  • fanylion am ddigwyddiad ymchwil i’w hyrwyddo (boed yn ddarlith, yn gynhadledd neu’n seminar) 
  • neu unrhyw fath o wybodaeth yn ymwneud â’r byd ymchwil cyfrwng Cymraeg, cysyllta!

Ein cyfeiriad e-bost yw gwybodaeth@gwerddon.org neu gellir gyrru neges i ni @Gwerddon.  Caiff #ffrwd ei ddiweddaru’n gyson felly cofia ymweld bob dydd i weld be sy’n digwydd yn y byd ymchwil Cymraeg.

 

#ffrwd yw dy ofod #ymchwil di!


Digwyddiadau

Rhaglenni Hyfforddi

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal dwy raglen hyfforddiant ar gyfer ymchwilwyr a staff.

Y Rhaglen Sgiliau Ymchwil yw'r unig raglen hyfforddiant ymchwil ar gyfer myfyrwyr ôl-radd ac academyddion gyrfa gynnar a geir yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhelir sesiynau drwy gydol y flwyddyn academaidd ac maent yn agored i unrhywun sydd yn ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg. Cliciwch yma am ragor o fanylion.

Mae'r Rhaglen Datblygiad Staff yn gyfres o weithgareddau hyfforddiant misol ar gyfer darlithwyr, boed yn staff newydd neu'n staff profiadol, sy'n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r hyfforddiant yn agored i bawb o unrhyw sefydliad addysg uwch, ac yn fodd i bobl rannu profiadau wrth iddynt feithrin arferion academaidd da a datblygu eu sgiliau addysgu. Cliciwch yma am fanylion pellach.

​Digwyddiadau
Newyddion

Lisa Sheppard yn ennill Gwobr Gwerddon

Lisa_SheppardDr Lisa Sheppard o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw enillydd Gwobr Gwerddon eleni, gwobr a noddir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dyfernir Gwobr Gwerddon bob dwy flynedd i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Eleni, erthygl Lisa – ‘‘Troi Dalen ‘Arall’: Ail-ddehongli’r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr ‘arall’ – a ddaeth i’r brig.

Dywedodd Lisa, sydd yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg:

“Roedd yn fraint clywed bod Gwobr Gwerddon wedi’i dyfarnu i mi, a hynny’n hollol annisgwyl. Hoffwn ddiolch yn fawr i dîm golygyddol Gwerddon am eu cefnogaeth, ac i Dr Huw Williams, Prifysgol Caerdydd, am fy ngwahodd i gyfrannu at y rhifyn arbennig a phwysig ar ‘Berthnasau Athronyddol’. Mae’r erthygl yn trafod sut y mae nofelau Cymreig cyfoes (Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd  a The Book of Idiots gan Christopher Meredith), yn portreadu siaradwyr Cymraeg a Saesneg ill dau yng Nghymru fel ‘yr arall’, fel pobl ddieithr neu wahanol.

“Yn yr oes sydd ohoni, gyda phrosesau fel ‘Brexit’ yn eu hanterth, mae’n bwysig inni ddeall sut y mae’r delweddau a welwn o’n cwmpas yn darlunio rhai grwpiau cymdeithasol fel ‘yr arall’ hefyd, fel rhywrai sydd y tu allan i’r norm cenedlaethol, a sut mae presenoldeb iaith leiafrifol gynhenid fel y Gymraeg yn effeithio ar y prosesau hyn.

“Rhaid diolch i Gwerddon felly am y cyfle i drafod materion o bwys fel hyn trwy gyfrwng y Gymraeg, a meddwl am sut y gall ein profiadau dwyieithog yn y Gymru gyfoes ein helpu i ail-ddiffinio’n perthynas gyda grwpiau lleiafrifol neu ymylol eraill yng Nghymru a Phrydain”

Dywedodd golygydd Gwerddon, Dr Anwen Jones:

“Rydyn ni’n llongyfarch Lisa yn wresog ar ennill y wobr eleni. Gwobrwywyd yr erthygl hon, o blith nifer o erthyglau arbennig o dda ar sail grym y ddadl, ac ansawdd y dystiolaeth ysgolheigaidd a gyflwynwyd. Mae hi hefyd o ddiddordeb i bobl y tu allan i faes penodol llenyddiaeth ac athroniaeth. Trwy gyfuno’r nodweddion yma mae’r erthygl yn enghraifft loyw o fwriad Gwerddon.”

Ychwanegodd Anwen “Diolch i Lisa ac i’r holl awduron eraill sydd wedi cyhoeddi yn Gwerddon dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac sydd yn parhau i gyflwyno eu gwaith. Rydym yn awyddus iawn i dderbyn gwaith ysgolheigaidd gwreiddiol a diddorol o bob maes ymchwil.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am noddi’r wobr yma eto eleni.”

Bydd Lisa yn derbyn tlws ynghyd â £100 yn rhoddedig gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn nathliad pen-blwydd Gwerddon ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Môn am 3:30 brynhawn dydd Mawrth 8 Awst.

​Newyddion
Cyflogwyr

Defnyddio mathemateg i ennill gêm Monopoly

Monopoly

Wyddoch chi bod modd defnyddio mathemateg er mwyn penderfynu pa eiddo i'w brynu mewn gêm o Monopoly? Dyna'n union a wneir yn ethygl wyddonol fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017. Enillodd Dr Andrew Davies y wobr am erthygl ar y testun 'Chwarae teg? Defnyddio mathemateg i ennill gêm Monopoly'.

"Er mwyn dathlu dychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i Fôn, mae'r erthygl hon yn egluro a ydyw argraffiad Ynys Môn Monopoly yn gêm deg ai peidio," meddai Dr Davies. "Rwyf hefyd yn cyflwyno hefyd strategaethau ar sut i ennill y gêm, yn seiliedig ar fathemateg."

"Mae'r erthygl yn mesur tebygolrwydd glanio ar bob sgwâr ac yn ystyried a yw'r rheolau'n deg neu beidio. I gloi, rwy'n rhoi cyngor i chwaraewyr ac yn esbonio pam y dylaent brynu Llu Awyr Brenhinol y Fali ond osgoi Ynys Lawd!"

Magwyd Dr Richard Andrew Davies yn Llangefni, Ynys Môn. Dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth i astudio Cemeg ym Mhrifysgol Bangor ac enillodd wobrau academaidd lu. Cafodd ysgoloriaeth gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg i astudio ei ddoethuriaeth ym Mangor. Ar ôl chwe blynedd fel ymchwilydd yn Llundain a’r Siroedd Cartref, dychwelodd i Fôn.

Yn 2009, fe'i penodwyd yn Gymrawd Dysgu Cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo mewn Cemeg, Cyfrifiadureg a Mathemateg. Cynyddodd yn sylweddol y nifer o fodiwlau dwyieithog sydd ar gael, yn ogystal â'r nifer o fyfyrwyr Cymraeg sy'n eu hastudio. Yn sgil ei waith diflino, mae Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’w cael ar gyfer astudio Cemeg ym Mangor ers sawl blynedd.

Mae Dr Davies yn ennyn diddordeb mewn gwyddoniaeth trwy ei waith allymestyn: er enghraifft, mae'n cynnal nifer o gystadlaethau a gweithgareddau dwyieithog i ysgolion, yn ogystal â gweithgareddau a sioeau cemegol yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol.

Yn sgil ei lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Môn o dan ffugenw "Gwlad y Medra", derbyniodd y fraint o gael bod yn aelod o Banel Canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol.

Diolch i Dr Andrew Davies ac i'r Eisteddfod Genedlaethol am ganiatáu i Gwerddon gyhoeddi'r erthygl hon.

Gellir ei lawrlwytho drwy glicio ar y ddolen isod.

​Ymchwil