Mae Gwerddon yn gyfnodolyn mynediad agored sy’n cyhoeddi ymchwil Cymraeg gwreiddiol mewn ystod eang o feysydd academaidd. 

Y Golygydd yw’r Athro Anwen Jones a’r Is-olygydd yw Dr Hywel M. Griffiths. 

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007. Ei nod yw symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. 

Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac yn gweithredu cyfundrefn arfarnu annibynnol yn ogystal ag arddel y safonau golygyddol uchaf.

Cyllidir a chyhoeddir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Dilynwch ni